tiktok³ÉÈ˰æ

En

ISEP Archwilydd Amgylcheddol Arweiniol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Dyddiau
Dyddiau
Hyblyg

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol i arwain archwiliadau o systemau rheoli amgylcheddol megis ISO 14001. Mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n meddu ar brofiad ym meysydd amgylcheddol, archwilio neu gydymffurfiaeth sy’n dymuno uwch-sgilio a rheoli archwiliadau EMS – yn fewnol ac yn allanol. Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth ddwfn o reoliadau amgylcheddol, gweithdrefnau archwilio ac arweinyddiaeth o fewn timau archwilio. Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

...gweithwyr proffesiynol sy’n dymuno arwain archwiliadau o systemau rheoli amgylcheddol, yn enwedig y rhai sydd wedi’u halinio ag ISO 14001

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y cwrs: 5 diwrnod

Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:

  • ISO 14001:2015 Dehongli.
  • Materion Amgylcheddol a Deddfwriaeth.
  • Agweddau ac Effeithiau Amgylcheddol.
  • Cynllunio a Gweithredu Archwiliadau.
  • Rolau a Chyfrifoldebau Archwiliadau.
  • Technegau a Methodolegau Archwiliadau.
  • Rhwymedigaethau Cydymffurfiaeth.
  • Amcanion a Monitro EMS.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i gynrychiolwyr feddu ar werthfawrogiad o ISO 14001 a’i ofynion cyn mynychu’r cwrs hwn. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn meddu ar unrhyw wybodaeth flaenorol neu braidd dim gwybodaeth flaenorol, argymhellwn eu bod yn astudio ar y cwrs Archwilydd System Reoli Amgylcheddol Fewnol yn gyntaf sy’n cynnwys cyflwyniad i ISO14001

Gwybodaeth Ychwanegol

Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig.
  • profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes.
  • dyheadau gyrfa.
  • ymroddiad amser angenrheidiol.
Ble alla i astudio ISEP Archwilydd Amgylcheddol Arweiniol?

MPLA0215AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.