BCS Tystysgrif Lefel 3 mewn Sgiliau Defnyddiwr TG (ICDL Uwch) (ITQ)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r cymhwyster Lefel 3 hwn yn cynnwys sgiliau a rhaglenni defnyddiwr TG lefel uwch. Trwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau defnyddiwr TG uwch angenrheidiol i weithio’n gynhyrchiol mewn swydd rheoli sy’n gofyn am ddefnydd arbenigol o raglenni meddalwedd TG cyffredin.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth gan ennill yn llai na £34,303 y flwyddyn.
… unrhyw un sy’n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth defnyddiwr TG uwch.
… unrhyw un sy’n dymuno dysgu sgiliau ymarferol a sgiliau trosglwyddadwy i wella effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn ei faes gwaith.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y cwrs: 15 diwrnod
Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:
Byddwch chi’n cwblhau 5 uned orfodol unigol:
- Meddalwedd Prosesydd Geiriau
- Meddalwedd Taenlenni
- Meddalwedd Cyflwyniadau
- Meddalwedd Cronfa Ddata
- Gwella Cynhyrchiant
Gallwch chi ddisgwyl datblygu sgiliau gan gynnwys:
- Sut i ddefnyddio offer TG i wella cynhyrchiant a gweithio’n fwy effeithiol; megis defnyddio offer awtomataidd a nodweddion uwch rhaglenni meddalwedd.
- Sut i wireddu potensial llawn meddalwedd taenlenni i gynhyrchu gwybodaeth reoli o safon uchel.
- Sut i ddefnyddio nodweddion uwch meddalwedd prosesydd geiriau i wella gwaith, gwella cynhyrchiant ac arbed amser.
- Sut i ddefnyddio nodweddion uwch i greu cyflwyniadau o safon uchel a dangos sgiliau cyflwyno arbenigol.
- Sut i ddefnyddio offer uwch sydd ar gael o fewn meddalwedd cronfa ddata i drefnu a rheoli gwybodaeth.
Gofynion Mynediad
Dim – fodd bynnag, disgwylir i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth dda iawn am raglenni Microsoft Office, sydd fel arfer yn cael eu cynnwys yn ICDL Lefel 2 neu gwrs cyfatebol.
Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur  Windows a gwe-gamera / meicroffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
MPLA0198AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.