NILC Hanfodion Ardystiedig Microsoft 365

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae’r arholiad hwn wedi’i ddylunio ar eich cyfer chi os ydych chi’n dymuno dangos gwybodaeth ar lefel sylfaenol am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl i hwyluso cynhyrchiant a chydweithredu ymhlith gweithwyr ar y safle, gweithwyr o bell a gweithwyr hybryd. Fel ymgeisydd, efallai eich bod chi’n:
- Meddu ar wybodaeth am ddatrysiadau seiliedig ar y cwmwl.
- Newydd i Microsoft 365.
- Gallu defnyddio’r arholiad hwn i baratoi ar gyfer ardystiadau Microsoft eraill ond nid yw’n ofynnol ar gyfer y rhai cysylltiedig.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol. Mae Cyfrif Dysgu Personol yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser am ddim sy’n cynnig dysgu hyblyg, cyfleus sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog arferol o £34,303 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.
Cynnwys y cwrs
Cyflwynir y cwrs hwn drwy ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn gyfatebol i gyrsiau a gyflwynir wyneb yn wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ond maent yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y cwrs: 1 diwrnod
Trwy gydol y cwrs, byddwch chi’n dysgu am y canlynol:
- Cysyniadau Cwmwl
- Gwasanaethau Craidd Microsoft 365
- Diogelwch, Cydymffurfiaeth, Preifatrwydd ac Ymddiriedaeth
- Prisio a Chymorth Microsoft 365
Gofynion Mynediad
Dim – Dylai ymgeiswyr feddu ar wybodaeth gyffredinol am rwydweithio, cyfrifiaduron a chysyniadau cwmwl
Bydd angen mynediad i’r rhyngrwyd arnoch chi, cyfrifiadur  Windows a gwe-gamera / meicroffon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nod y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn dechrau eu dysgu, yn ystod eu dysgu ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gael eich cofrestru ar eich cwrs a ariennir gan y rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, trafodir cynllun dysgu unigol gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi cael ei ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
- addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
- profiad blaenorol yn y diwydiant neu’r maes
- dyheadau gyrfa
- ymroddiad amser angenrheidiol
- mynediad at y rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon
Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod a gyfer y cwrs hwn:
- unrhyw brofiad blaenorol o Microsoft 365
- unrhyw brofiad blaenorol o rolau Gweinyddiaeth TG neu Gymorth TG
MPLA0185AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.