tiktok³ÉÈ˰æ

En

City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

4 TGAU gradd A* - D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf);

neu

Ddiploma Lefel 1 addas, gan lwyddo i gwblhau'r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys yr ystod lawn o weithdrefnau gosod cerbydau arferol. Mae'n darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol i osodwyr cerbydau sy'n gweithio ar gerbydau ym mhob math o garejys, delwriaethau a busnesau 'fast fit'.

Dyma'r cwrs i chi os...

...oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn mecanwaith cerbydau.

...ydych chi am gael cyfuniad o astudiaeth ddamcaniaethol ac ymarferol.

...ydych chi am gael cyflwyniad da i fecanwaith cerbydau modur cyn ymgymryd â'r rhaglen gynnal a chadw.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Bydd y cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar rhai o'r pynciau canlynol:

  • Archwilio, atgyweirio ac ailosod teiars cerbydau ysgafn a beiciau modur perfformiad uchel.
  • Alinio olwynion blaen cerbydau ysgafn.
  • Archwilio ac ailosod cydrannau gwacáu, siocladdwyr, batris cerbydau a systemau brecio.
  • Asesu a diogelu sefyllfaoedd ar ochr y ffordd.

Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth eang o iechyd a diogelwch yn y gweithle, gan gytuno ar anghenion cerbydau cwsmeriaid a sgiliau eraill sy'n gysylltiedig â gweithio mewn garej.

Fel rhan o'ch cwrs, byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau sy'n gysylltiedig â Saesneg a Mathemateg.

Byddwch yn cael eich asesu drwy brofion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, portffolios ac asesiad ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

Diploma City andGuilds Lefel 2 mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau

Ìý

Gweithgareddau Sgiliau

Mathemateg a Saesneg (os nad ydych chi wedi cyflawni gradd C neu'n uwch ar lefel TGAU)

Unrhyw gymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad at y cwrs hwn, rhaid i chi gael:

  • 4 TGAU gradd A* - D gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
  • Ddiploma Lefel 1 addas, gan lwyddo i gwblhau'r sgiliau llythrennedd a rhifedd priodol.

Ìý

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn ofynnol, a bydd angen i chi allu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm. Hefyd, mae angen awydd cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, a bydd disgwyl i chi lynu wrth ethos y coleg.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynnal a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
  • Symud ymlaen i brentisiaeth neu gyflogaeth addas.
  • Cyflogaeth yn y diwydiant.
Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Gosod Cerbydau Lefel 2?

NFDI0557AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr