Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Caiff pob ymgeisydd ei ystyried ar sail unigol.
Yn gyffredinol, dylai ymgeiswyr rhwng 18 a 21 oed feddu ar isafswm o 3 chymhwyster TGAU (gradd C neu uwch) sy’n cynnwys Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg neu bwnc Gwyddoniaeth. Yn ogystal â chymhwyster Lefel 3 megis Diploma Cenedlaethol BTEC neu Safon Uwch sy’n gyfwerth neu’n uwch na 48 o bwyntiau UCAS.
Cyfrifiannell tariff UCASÂ
Croesawir myfyrwyr hÅ·n (21 oed +) ac ymdrinnir ag ymgeiswyr ar sail unigol. Er nad oes angen meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc ac awydd ymrwymedig i ddysgu yn hanfodol.
Yn gryno
Os ydych chi’n frwdfrydig am gemau ac yn barod i ymuno â’r diwydiant, mae’r cwrs hwn wedi’i wneud ar eich cyfer chi.
Sianelwch eich creadigrwydd a’ch ysgogiad entrepreneuraidd wrth fabwysiadu arferion proffesiynol yn eich agwedd a’ch prosiectau. Gadewch i’ch brwdfrydedd eich arwain wrth i chi drawsnewid eich gweledigaethau gemau yn realiti. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feithrin y sgiliau technegol i ddod â’ch syniadau yn fyw a chreu celf gemau cyfrifiadurol a dyluniad gemau’r genhedlaeth nesaf.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych yn greadigol
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dylunio gemau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn frwdfrydig
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae gemwyr heddiw yn disgwyl datblygiad gemau a chelf gemau 2D/3D sy’n realistig ac yn llawn dychymyg. Byddwch chi’n ystyried cefndir maes gemio ac yn astudio agweddau gwahanol sy’n effeithio ar chwarae gemau, gan gynnwys cysyniadau, dylunio a defnyddio. Yn ogystal ag ennill gwybodaeth dechnegol, cewch eich annog i ddatblygu eich dawn greadigol a’ch sgiliau proffesiynol i roi’r cyfle gorau i lwyddo ym marchnad gemau cyfrifiadurol. Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd ag arbenigwyr ym maes gemau cyfrifiadurol i ddarparu hyfforddiant arbenigol i’r diwydiant.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch chi’n astudio’r modiwlau canlynol: -
Blwyddyn 1
- Mewnosod darn arian i ddechrau
- Cysyniadau a Dylunio
- Celf
- Ymarfer Technegol
- Gadewch i ni greu gêm!
- Archwilio gemau
Blwyddyn 2
- Pecyn estyniad
- Archwilio gemau ymhellach
- Gwasgwch chwarae i barhau
- Ymarfer proffesiynol wrth greu gemau
Beth sy'n digwydd nesaf?
Wedi i chi gwblhau'r radd sylfaen, bydd cyfle i chi fynd ymlaen i BA (Anrh) Celf Gemau, lle byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymhellach mewn maes penodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Efallai y bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: 8C27
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0049AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 22 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr