Cyflwyniad i Wyddoniaeth

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Gwyddoniaeth
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£72.00
Dyddiad Cychwyn
27 Ionawr 2026
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
13:30
Amser Gorffen
18:00
Hyd
6 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gyfer y rhai sy'n ymddiddori yn sut y mae'r byd yn gweithio. Mae'n gweithio fel cam tuag at yrfa yn y meysydd canlynol:
Y Biowyddorau/Bioleg/Deallusrwydd Artiffisial/Rocedeg/Gwyddor y Gofod/Gwyddor Feddygol/Niwrowyddoniaeth/Fferylliaeth/Optometreg a llawer mwy
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Byddwch yn rhannu eich diddordeb mewn popeth... mae’n mynd y tu hwnt i ddamcaniaeth. Mae egni ac angerdd yn cysylltu'r byd. Craffwn ar y wyddoniaeth sy'n cysylltu'r corff dynol â dadansoddiad cemegol, yn ogystal â'r angen i archwilio'r bydysawd o'n cwmpas a gwladychu’r blaned Mawrth.
Cynnwys y cwrs
Mae'r gan y cwrs hwn 3 phrif ran:
1. CSI Casnewydd Cyfle
i ddefnyddio gwyddoniaeth i ddatrys trosedd! Mae'r heddlu yn dibynnu'n fwyfwy ar wyddoniaeth. Byddwch yn cael senario realistig (wedi'i seilio ar stori wir), a thrwy ddefnyddio technegau gwyddonol, byddwch yn dysgu p'un a fu farw Mr Jones o achosion naturiol, neu a oes tystiolaeth o anfadwaith. Cyfle i roi sgiliau gwyddonol sylfaenol ar waith wrth gael blas ar weithio fel gwyddonydd fforensig.
2. Gweithrediadau’r corff
Mae ein cyrff yn beiriannau biocemegol cymhleth, felly sut maen nhw'n gweithio? Sut ydym ni'n symud a sut ydym ni'n cadw'n fyw? Mae'r rhan hon yn darparu golwg ymarferol ar y fioleg a'r cemeg sydd y tu ôl i fywyd... gan wthio'r ffiniau a chwalu rhwystrau.
3. Rocedeg Byddwch
yn cael cyfle i gynllunio ac adeiladu eich rocedi eich hun a'u lansio. Dysgwch am y wyddoniaeth sydd y tu ôl i hedfan i'r gofod drwy ymchwilio i’r cenadaethau gofod diweddar.
Gofynion Mynediad
Dim cymhwyster ffurfiol dim ond llawer o frwdfrydedd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi ymuno â'r holl weithgareddau ymarferol, sy'n cynnwys ymchwilio i safle llofruddiaeth, archwilio sut mae'r corff yn gweithio ac adeiladu rocedi sy'n hedfan.
Byddwn yn dyfarnu gwobrau i enillwyr ystod o gystadlaethau, o brofi sgiliau ditectif i gynllunio roced.
Beth sy'n dod nesaf?
Gallwch wneud cais ar gyfer un o'n cyrsiau Gwyddoniaeth Gymhwysol ar L2 neu L3 ar-lein.
NPCE3598AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 27 Ionawr 2026
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr